Bryn Eryr - Tai Crwn Oes Haearn
Sut oedd ein cyndeidiau yn adeiladu eu cartrefi yn Oes yr Haearn? Beth allwn ni ddysgu am eu ffordd o fyw?
Ymunwch ag archeolegydd i ddarganfod cliwiau am sut oedd pobl yn byw yng Nghymru dros 2000 o flynyddoedd yn ôl.
Argymhellir ein Gweithdai Dangos a Dweud yn Sain Ffagan - Bryn Eryr: Tai Crwn o Oes yr Haearn ar gyfer disgyblion Blwyddyn 2 ac iau.
Uchafswm o 30 disgybl.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk