Gwers Ysgol Fictoraidd
Sut deimlad fyddai bod yn ddisgybl yn ystod Oes Fictoria? Cyfle i’ch dosbarth ddarganfod yn y gweithdy chwarae rôl yma.
Cyfle i weld y gwahaniaethau rhwng ysgolion cyfoes a Fictoraidd drwy gymryd rhan mewn gwers gydag athro llym Fictoraidd!
Uchafswm o 30 disgybl.
Argymhellir ein Gweithdai Dangos a Dweud yn Sain Ffagan - Maestir: Ysgol Fictoraidd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 2 ac iau.
Adnoddau:
Ysgol Fictoraidd yng Nghymru: elyfr i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Ysgol Maestir
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk