Gweithdy Amgueddfa
Nadolig Oes Fictoria | Abertawe 1851
🔍 Darganfod ac archwilio
Ymunwch â Mrs. Bird wrth iddi baratoi ei haelwyd ar gyfer Nadolig Fictoraidd traddodiadol Cymreig ym 1851.
✏️ Cymryd rhan
Bydd eich dosbarth yn cael cyfle am weithdy wedi'i hwyluso a darganfod y straeon y tu ôl i Nadolig must haves e.e. addurniadau Nadolig, cardiau a chracers.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae'r gweithdy hwn yn rhyngweithiol ac yn caniatáu i'r dosbarth gynorthwyo Mrs Bird i addurno ei choeden Nadolig, paratoi pwdin Nadolig traddodiadol a darganfod traddodiadau Cymreig fel y Fari Lwyd.
Hyd:
1 awr
Dyddiadau:
Tachwedd a Rhagfyr 2025
Tâl:
Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
Datganiad o'r hyn sy'n bwysig: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffenol, ei bresennol, a'i ddyfodol.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600