Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyma gyfle i ymuno â ni ar daith am ddim ar gyfer ymwelwyr dall neu â nam ar eu golwg o gwmpas yr arddangosfa boblogaidd o hunanbortreadau sy’n cynnwys paentiad gan Van Gogh.
Bydd hunanbortread Van Gogh, Portread o’r Artist (1887), yn dychwelyd i Musée d’Orsay, Paris yn fuan. Byddwn ni’n defnyddio’r daith hon i ddysgu am sut mae Van Gogh ac artistiaid eraill o Gasgliad Cenedlaethol Cymru wedi defnyddio hunanbortreadau fel ffordd o archwilio eu hunaniaeth a mynegi eu hunain.
Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni.
Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.
Mae Streic y Glowyr 1984 yn rhan bwysig o hanes diweddar Cymru. Rhwng lluniau a phlacardiau protest i straeon personol o frawdoliaeth yn eu brwydr yn erbyn byd oedd yn prysur newid, mae’r arddangosfa bwysig hon yn taflu goleuni ar Streic y Glowyr a’i effaith hynod ar ein gwlad.
Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni.
Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.
Vincent Van Gogh, Portrait de l'artiste, 1887
Oil on canvas
RMN-Grand Palais / Adrien Didierjean / RMN-GP / Dist. Foto SCALA, Florence
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk