Hip Hop: Stori Cymru
🔍 Darganfod ac archwilio
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddarganfod stori fywiog Hip Hop Cymru. Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, bydd dysgwyr yn archwilio gwreiddiau tanddaearol Hip Hop yn yr 1980au a'i rôl bwerus mewn cyfiawnder cymdeithasol trwy ein harddangosfa dros dro. Mae'r gweithdy hwn yn gwahodd dysgwyr i archwilio cerddoriaeth, iaith a diwylliant artistiaid arloesol Cymru a sut mae'r artistiaid hyn wedi defnyddio eu cerddoriaeth fel llwyfan i godi llais yn erbyn anghyfiawnder. Drwy archwilio’r arddangosfa a’r gweithgareddau creadigol, bydd dysgwyr yn darganfod sut y daeth Hip Hop yn llais i ieuenctid, creadigrwydd a chymuned ledled Cymru.
✏️ Cymryd rhan
Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn ymarfer y gair llafar lle byddant yn archwilio traddodiadau cyfoethog cerddoriaeth Cymru. Byddan nhw hefyd yn creu eu clawr albwm a'u rhestr traciau eu hunain yn seiliedig ar faterion cymdeithasol sy'n bwysig iddyn nhw.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio pynciau sensitif fel hiliaeth, rhywiaeth a dosbarthiaeth. Mae curaduron yr arddangosfa wedi gwneud pob ymdrech i gael gwared ar iaith dramgwyddus o'r gerddoriaeth a ddefnyddir yn yr arddangosfa hon. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych chi unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn ni'n gwneud ein gorau i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus!
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
- Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
- Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
- Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio'r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae'n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
- Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.
Iechyd a Lles
- Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles emosiynol.
- Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydym ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk