Datganiadau i'r Wasg

Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru, Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

10 erthyglau. Tudalen: 1 2

Canfod trysor ger Bronington, Wrecsam

15 Mehefin 2015

Datgan celc o aur ac arian o ddiwedd yr oesoedd canol yn drysor

Mae celc canoloesol o dri darn aur a 25 darn arian o Loegr wedi ei ddarganfod ger Bronington, Wrecsam. Daw’r ceiniogau o gyfnodau Edward III, Richard II a Harri VI, gyda thair ceiniog o gyfnodau amhenodol. Cafodd y ceiniogau eu darganfod ar sawl gwahanol achlysur yn 2013 gan Mr Cliff Massey wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel, a chafodd modrwy hefyd ei darganfod gan Mr Massey a Mr Peter Walpole ar 16 Mawrth 2014.

Canfod Trysorau ger Caerdydd

22 Ebrill 2015

Arteffactau o ddiwedd yr Oes Efydd, y Canol Oesoedd a chyfnod y Tuduriaid a ganfuwyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn drysorau

Heddiw (22 Ebrill 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Caerdydd a Bro Morgannwg bod wyth darganfyddiadddiwedd yr Oes Efydd(tua 1000CC-800CC), y Canol Oesoedd(5ed i’r 15fed ganrif) a chyfnod y Tuduriaid (16eg ganrif) yn drysorau.

Canfod Trysor ger Wrecsam

26 Mawrth 2015

Arteffactau o ddiwedd yr Oes Efydd a ganfuwyd yng nghymuned yr Orsedd yn drysor

Heddiw (26 Mawrth 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Gogledd Orllewin Cymru bod celc o ddau arteffact aur y credir eu bod yn dyddio o tua 1000-800 CC, neu 3,000-2,800 o flynyddoedd yn ôl, yn drysor.

Canfod Trysor ar Ynys Môn

25 Chwefror 2015

Arteffactau o ddiwedd yr Oes Efydd a ganfuwyd yng nghymuned Cwm Cadnant yn drysor

Heddiw (25 Chwefror 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Gogledd Orllewin Cymru bod celc o bedwar arteffact aur a chopr y credir eu bod yn dyddio o tua 1000-800 CC, neu 3,000-2,800 o flynyddoedd yn ôl, yn drysor.