Cyfnod Allweddol 3-4 a Bagaloriaeth Cymru

Am ddim Dan arweiniad athro

Her Menter a Chyflogadwyedd - Bagloriaeth Cymru

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cystadleuaeth 2019/20 ar agor nawr - gweler y llythyr isod.

CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015.

Mae’r adnoddau yn cynnwys dogfen her ar gyfer eich darn o waith fydd yn cael ei asesu, ynghyd â her i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer eu project.

I brofi byd busnes a gwaith mae angen i chi weithio gyda’ch gilydd fel tîm o 3-6 a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth rydych wedi casglu wrth ymchwilio Amgueddfa Cymru i gynllunio, dylunio a datblygu cynnyrch newydd yn seiliedig ar gasgliadau’r amgueddfeydd. Rhaid i’r cynnyrch fod yn gost-effeithiol, arloesol ac yn addas ar gyfer gwerthiant yn siopau Amgueddfa Cymru.

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Cwricwlwm

Bagloriaeth Cymru CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Her Menter a Chyflogadwyedd – Cynnyrch

Oriel Cymru - Beth yw Cymru?

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Oriel Cymru

Ennill dealltwriaeth ddyfnach o Gymru yn yr oriel newydd – Cymru.

Cwestiynwch stereoteipiau a rhagdybiaethau o Gymru a hunaniaeth Gymreig trwy archwiliad thematig - themâu megis protest, cysylltiadau, cyfoeth a thlodi, a Cymru yn ystod y Rhyfel.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: O Hydref 19eg 2018 ymlaen
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Oriel Gweithdy

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sesiwn Oriel Gweithdy

Cymerwch ran mewn gweithdy i archwilio ein horiel newydd sbon - Gweithdy - sy'n llawn o wrthrychau a wnaed gan wneuthurwyr yn y gorffennol a'r presennol.


Yn ystod y gweithdy bydd eich grŵp yn archwilio crefft a dylunio yn ogystal â gwahanol ddeunyddiau a'u priodweddau ac yn gweithio mewn grwpiau i ddylunio eu cynnyrch eu hunain wedi'i ysbrydoli gan y gwrthrychau a arddangosir.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Arddangosiadau crefft

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Gallwch archebu sesiwn lle bydd y gof, y melinydd, y gwehyddwr neu’r clocsiwr yn arddangos eu crefftau traddodiadol, yn dibynnu ar ddiwrnod eich ymweliad.

Hyd: 30 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Dinasyddiaeth Fyd-Eang - Bagloriaeth Cymru

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

 

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015.

Mae’r adnoddau yn cynnwys her fer i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer yr her Dinasyddiaeth Fyd-Eang. Maent yn cynnwys cyflwyniad, pecyn ffynonellau a gweithgareddau.

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.