Ffermdy Abernodwydd

48

Pa fath o adeilad yw Abernodwydd?

Mae Abernodwydd yn ffermdy ffrâm bren a thô gwellt. Codwyd y tŷ ym 1678 ar ffurf neuadd agored. Byddai mŵg o’r tân yng nghanol y llawr yn llenwi gofod y to.

Roedd y math yma o adeilad yn nodweddiadol o bensaernïaeth canolbarth Cymru a’r gororau. Mae'r muriau wedi'u gosod ar Sylfaen o gerrig rhag i'r trawstiau coed bydru. Llenwyd y paneli rhwng y coed gyda gwiail cyll wedi eu plethu a’u gorchuddio â chlai. Lloriau pridd sydd iddo.

Ble oedd Abernodwydd yn wreiddiol?

Daw Abernodwydd o Langadfan ym Mhowys. Adeiladwyd y ffermdy ym 1678.

Pwy fu yn byw yn Abernodwydd?

Roedd Abernodwydd yn gartref i’r teulu Rhys am dros 300 mlynedd. Gadawodd aelod olaf y teulu y tŷ ym 1936. Ar ddechrau’r 1700au, Evan a Jane Rhys oedd yn byw yma. Mae’n rhaid bod Evan yn ffermwr gweddol gyfoethog. Ym 1708, fe wariodd dipyn o arian ar adnewyddu’r ffermdy trwy adeiladu lle tân a’r simdde carreg, a gosododd lofft uwchben y neuadd i storio holl gnydau'r fferm.

Beth oeddynt yn ffermio yn Abernodwydd?

Roedd ffermwyr Abernodwydd yn tyfu cnydau ac yn pori anifeiliaid. Yn y llaethdy, fe welwch fuddai ar gyfer gwneud menyn a gwasg ar gyfer gwneud caws. Roedd menyn a chaws yn fwyd i’r teulu, ac yn fodd i wneud arian yn y marchnadoedd lleol.

Tân mawn fyddai wedi llosgi uwchben y twll lludw, neu’r ‘uffern’. Byddai’r teulu yn coginio prydau syml fel cawl, cig rhost a bara.

A wyddoch chi?

Abernodwydd oedd y trydydd adeilad i’w symud i’r Amgueddfa. Fe’i symudwyd ym 1952 a’i agor ym 1955.

Roedd Llangadfan ar un o brif lwybrau’r porthmyn trwy’r sir. Byddai miloedd o wartheg yn dod trwy’r pentre ar y ffordd i gael eu gwerthu yn Lloegr.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llangadfan, Powys (Sir Fynwy)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1678/1708
  • Dodrefnwyd: 1770au
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1951
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1951
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld