Capel Pen-rhiw

Beth yw’r adeilad hwn?

Dyma Gapel Undodaidd Pen-rhiw. Mae’n adeilad rhestredig Gradd 2.

Lle gafodd Pen-rhiw ei adeiladu?

Adeiladwyd y capel yn Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin. Câi’r ardal ei nabod fel ‘Y Smotyn Du’ gan enwadau Cristnogol eraill, oedd yn anghytuno â chredoau’r Undodiaid. Erbyn 1851 roedd 27 capel Undodaidd yng Nghymru, 17 ohonynt yn ardal y Smotyn Du.

Ymysg ardaloedd Undodaidd eraill Cymru roedd Merthyr, Aberdâr, Abertawe a Wrecsam. Chwaraeodd yr Undodiaid ran amlwg yn yr ymgyrchoedd i ddiwygio’r ffatrïoedd, iechyd cyhoeddus a hawliau merched.

Pryd gafodd y capel ei adeiladu?

Mae’n debyg i Gapel Pen-rhiw gael ei godi fel sgubor, a chafodd ei gymryd gan yr Undodiaid ym 1777. Câi’r flwyddyn hon ei galw yn ‘flwyddyn y tair caib’ - oherwydd siâp y rhif 7.

Casgliadau Ar-lein | Amgueddfa Cymru

Beth mae’r adeilad hwn yn ei ddweud wrthym am Undodiaeth?

Mae’r capel yn un syml a diaddurn. Mewn rhai ffyrdd, mae’n debycach i sgubor nag i fan addoli. Mae Undodiaid yn credu nad oes angen lliw nag addurn i addoli.

Mae Undodiaid yn credu mai un endid yw Duw, ac maent yn gwrthod y syniad o Drindod Sanctaidd – y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Maent yn credu y dylid dilyn Iesu fel athro, yn hytrach na’i addoli.

Dyma du mewn y capel. Gallwch weld ei fod wedi’i osod yn syml, heb fawr ddim lliw.

Roedd pob teulu oedd yn addoli yn y capel yn gyfrifol am ei sedd ei hun - dyna pam fod pob sedd yn wahanol. Mae’r pulpud i’w weld ar ochr dde y llun.

Ychwanegwyd galeri ym 1870 er mwyn i fwy o bobl allu addoli yn y capel.

Mae addysg a goddefgarwch yn bwysig iawn i’r Undodiaid. Pan gafodd yr adeilad ei ddymchwel ym 1953 a’i symud i’r Amgueddfa daethpwyd o hyd i boteli inc, cwils a ‘Welsh Not’ o dan y llawr, sy’n arwydd fod yr adeilad wedi’i ddefnyddio fel ysgol ar un adeg. Mae’r ffaith fod ‘Welsh Not’ wedi’i ganfod yn yr adeilad yn awgrymu bod yr Undodiaid yn cefnogi addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn hytrach na Chymraeg.

Welsh Not - Casgliadau Ar-lein | Amgueddfa Cymru

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Dr Iorwerth Peate, curadur cyntaf Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, wedi’i gladdu wrth ymyl capel Pen-rhiw.

Mae’r capel yn dal i gael ei ddefnyddio fel addoldy, gyda gwasanaethau dros y Nadolig, y Pasg a’r Diolchgarwch, yn ogystal â gwasanaethau priodas.

Digwyddiadau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae nifer o Undodiaid adnabyddus, gan gynnwys Louisa May Alcott, awdur Little Women, Edvard Grieg y cyfansoddwr o Norwy, a Tim Berners-Lee a greodd y we fyd eang.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1777
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1956
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld