Melin Wlân Esgair Moel

51

Beth yw’r adeilad hwn?

Dyma Felin Wlân Esgair Moel. Cafodd ei hadeiladu ym Mhowys ym 1760, pan oedd gwlân yn un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.

Mae’r felin yn dal i droi ac mae Dewi, gwehydd yr Amgueddfa, yn dal i greu amrywiaeth o nwyddau gwlân. Caiff y rhain eu gwerthu yn siop yr Amgueddfa a phob math o lefydd eraill o gwmpas Cymru.

Dewi wrth ei waith yn y felin.

Symudwyd y felin i’r Amgueddfa ym 1949.

Pwy arall fu’n gweithio yn y Felin Wlân?

Isaac Williams oedd y melinydd yma rhwng 1880 a 1932. Gwnâi flancedi a sioliau, gwlanen at wneud dillad, ac edafedd at wau sanau. Byddai’n gwerthu’r rhain i ffermwyr a’u teuluoedd ym marchnad Llanfair-ym-Muallt. Bydden nhw yn eu tro yn gwerthu gwlân iddo fynd adref gydag ef i’r felin.

Isaac Williams yn gwisgo siwt wlanen yn y 1920au

Sut oedd troi gwlân dafad yn ddillad?

Mae’r holl broses o droi gwlân yn ddillad yn dal i ddigwydd yn y felin, ac mae’n cymryd rhyw 20 awr i Dewi. Mae Dewi’n gwneud popeth - heblaw cneifio’r ddafad!

Rhaid golchi, lliwio, cribo a nyddu’r gwlân.

Mae’n cymryd rhyw ddwy awr i Dewi wehyddu siôl.

Dyma un o siolau Dewi’n cael ei gwisgo. Mae ar werth yn siop yr Amgueddfa.

Erbyn heddiw, modur trydan sy’n pweru peiriannau’r felin. Ond yn yr hen ddyddiau olwyn ddŵr oedd yn pweru’r lle. Mae’r olwyn yn dal i’w gweld - y tu mewn i’r adeilad, lle braidd yn annisgwyl!

Câi’r dŵr oedd yn troi’r olwyn ei bwmpio o’r pwll isod. Cafodd hwn ei adeiladu ym 1904 fel pwll nofio ar gyfer Iarll Plymouth a’i deulu. Roedden nhw’n byw yng Nghastell Sain Ffagan gerllaw.

Mae’r blancedi gaiff eu gwneud yn y felin yn cael eu hymestyn ar y ffrâm ddeintur tu allan. Mae hyn yn caniatáu iddynt sychu ac yn eu hatal rhag crebachu.

Wyddech chi?

Mae llond gwlad o ddywediadau yn gysylltiedig â defaid a’r diwydiant gwlân. Dyma ambell un:

  • ’Dilyn y praidd’ – gwneud yr un fath â phawb arall heb feddwl yn annibynnol, fel praidd o ddefaid yn dilyn ei gilydd!
  • ’Llathen o’r un brethyn’ – caiff y dywediad hwn ei ddefnyddio i ddisgrifio dau berson tebyg.
  • ’Yr oen yn dysgu’r ddafad i bori’ – rhywun ifanc neu ddibrofiad yn ceisio dangos i rywun hŷn neu fwy profiadol sut i wneud rhywbeth.
  • ’Fel gwennol gwehydd’ – peiriant gâi ei ddefnyddio mewn ffatrïoedd gwlân oedd gwennol gwehydd. Os oedd rhywun neu rywbeth ‘yn mynd fel gwennol gwehydd’, roedd yn golygu ei fod yn gyflym iawn.
  • ’Pen dafad’ – dyw’r ddafad druan ddim yn cael ei hystyried yn greadur clyfar iawn, felly rhywun ychydig yn dwp yw pen dafad!
 
Woollen Mill Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llanwrtyd, Powys (Sir Frycheiniog)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1760
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1949
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1952
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld