Gwesty’r Vulcan


O ble ddaeth Gwesty'r Vulcan?

Roedd Gwesty'r Vulcan yn sefyll ar Adam Street yn Waunadda, Caerdydd. ⁠Newtown oedd enw'r ardal ar y pryd – ardal ddechreuodd gael ei hadeiladu yn y 1830au ar gyfer y nifer cynyddol o weithwyr oedd eu hangen i adeiladu a rhedeg y dociau. ⁠Roedd hi'n ardal fach, ond yn gymuned fywiog, amlddiwylliannol. Enw'r ardal i weddill Caerdydd oedd 'Little Ireland', oherwydd bod cymaint o Wyddelod wedi symud yno i weithio ac i ddianc rhag y newyn yn eu mamwlad. ⁠Cafodd Newtown ei dymchwel yn y 1960au, a'r gymuned ei gwasgaru.

Pryd gafodd y Vulcan ei adeiladu?

Dau dŷ teras bach oedd y Vulcan yn wreiddiol, cyn i'r waliau gael eu dymchwel i greu un adeilad mwy. Cafodd The Vulcan Inn ei chofrestru gyntaf yn 1830au fel 'tŷ cwrw'. Roedd ystafelloedd i rentu ar y llawr cyntaf, lle byddai'r tafarnwr a'i deulu yn byw hefyd. Ar ôl gwaith ailwampio sylweddol yn 1914-5, newidiodd yr enw i The Vulcan Hotel.

Pam yr enw The Vulcan?

Fwlcan oedd duw tân a gofaint y Rhufeiniaid, ac mae'n cael ei bortreadu yn aml fel gof. Doedd dim ffowndri yn agos i Westy'r Vulcan yn y dyddiad cynnar hynny, felly mae'n bosib bod gan y tafarnwr cyntaf gysylltiad agos â'r diwydiant ac wedi dewis yr enw i adlewyrchu hyn?

Pam dewis dangos y Vulcan fel oedd hi yn 1915?

Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r Vulcan edrych fel y dafarn mae pawb yn ei chofio. Fel rhan o'r gwaith ailwampio, cafodd y to ei godi a'r ystafelloedd eu modelu, ac ychwanegwyd y teils eiconig ar flaen yr adeilad, yn dangos yr enw newydd. Mae gennym ni gopïau o gynlluniau'r pensaer o'r cyfnod, sydd wedi bod yn help mawr wrth ailgodi'r adeilad. Y tafarnwr ar y pryd oedd Denis MacCarthy. Fe a'i wraig, Julia, oedd fu’n rhedeg y dafarn am bron i 20 mlynedd, gan fyw ar y llawr cyntaf lle magwyd eu merch Ellen. Roedden ni'n ffodus iawn i gael cyfle i gyfweld a chofnodi atgofion Ellen o'i magwraeth yn y Vulcan. Oherwydd y dystiolaeth hon, 1915 oedd dyddiad dehongli naturiol.

Sut le oedd y Vulcan?

Yn 1915, byddai’r prif far yn llawn gweithwyr o'r dociau, y rheilffyrdd a'r diwydiannau lleol – anaml byddai menywod yn cael mynd i brif far tafarn yn y cyfnod. Fyddai dim byrddau na chadeiriau, a byddai blawd llif ar y llawr. Byddai cyplau yn yfed yn y Stafell Smygu fwy moethus. Byddai rhai yn sefyll yn y coridor hyd yn oed, ac yn cael eu peint drwy hatsh. Roedd bwth bach hefyd, o'r enw'r Jug and Bottle, lle gallai cwsmeriaid ddod i lenwi potel neu jwg eu hunain i fynd gyda nhw. Tynnwyd y bar gwreiddiol yn y 1940au, ac roedd y bariau diweddarach yn llawer llai er mwyn gwneud lle i fwy o gwsmeriaid! Daeth darts yn gêm boblogaidd dros y blynyddoedd, ac roedd y Vulcan hefyd yn denu cerddorion, beirdd ac awduron i yfed.

Y Vulcan yn Sain Ffagan

Yn 2012 cynigiwyd yr adeilad yn ffurfiol i Amgueddfa Cymru gan y perchnogion, Marcol Asset Management. Ym mis Mai'r flwyddyn honno dechreuodd y Curaduron a'r Uned Adeiladau Hanesyddol y broses o gofnodi'r adeilad yn ofalus cyn dechrau'r gwaith datgymalu. Dechreuodd y gwaith ailadeiladu yn 2020, ar ôl cwblhau Creu Hanes – Project Ailddatblygu Sain Ffagan.

Mae Gwesty'r Vulcan nawr ar agor. Mae digwyddiadau arbennig ar gael i'w harchebu ynghyd a nwyddau arbennig i'w prynu ar y safle.

Oeddech chi’n gwybod?

Perchennog y Vulcan yn 1915 oedd William Walter Nell Ltd, oedd hefyd yn berchen ar yr 'Eagle Brewery’ yn Sgwâr Sant Ioan ar yr Aes.

Un o drigolion Newtown oedd ‘Peerless’ Jim Driscoll – pencampwr bocsio pwysau plu Prydain yn 1906. Yn 1925, safodd 100,000 o bobl ar strydoedd Caerdydd i wylio'i arch yn pasio cyn ei angladd.

Pan oedd y Vulcan mewn perygl o gael ei chau a'i dymchwel yn 2009, sefydlodd y cwsmeriaid fenter 'Save the Vulcan', oedd yn llwyddiant mawr gyda dros 5,000 yn arwyddo deiseb i arbed yr adeilad.

Yn 2009 ffimliodd y band rock Future of the Left fideo cerddoriaeth yn y Vulcan. Yr un flwyddyn, ffilmiodd y BBC gyfweliad â cherddor roc arall yn y dafarn – John Cale o The Velvet Underground ar gyfer The Culture Show. ⁠

Cefnogwch project Gwesty'r Vulcan

Cyfrannu Nawr

Rhannwch eich storïau

Mae'n curaduron eisoes wedi bod allan yn cynnal hanesion llafar gyda chyn-gwsmeriaid a landlordiaid yr hen dafarn yn Adamsdown, gan gofnodi a ffilmio eu profiadau a'u hatgofion.

Byddem wrth ein boddau'n cael gwybod mwy, felly os oes gennych unrhyw straeon, ffotograffau neu wrthrychau sy'n gysylltiedig â'r Vulcan, cysylltwch â ni.

Diolch i'n noddwyr

Hoffai Amgueddfa Cymru ddiolch i Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson, Ymddiriedolaeth Elusennol Swire ac Ymddiriedolaeth Radcliffe, yn ogystal ag unigolion a theuluoedd sydd wedi cyfrannu’n hael i wneud y gwaith o ail-godi’r Vulcan yn bosib.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: 10 Adam Street, Adamsdown, Caerdydd
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1853
  • Dodrefnwyd: 1915
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 2012, wrthi’n ailadeiladu
  • Gwybodaeth ymweld