Archebwch ddetholiad o gwrw yn y Vulcan

Cafodd Gwesty'r Vulcan ei gofrestru fel tafarn (ale house) ym 1853, i wasanaethu’r gymuned Wyddelig yn bennaf yn lle oedd yn cael ei alw’n Newtown ar y pryd. Yn ystod ei hanes hir, gwelodd newidiadau mawr wrth i Gaerdydd dyfu yn bŵer diwydiannol a phrif ddinas y wlad, cyn cau ei ddrysau am y tro olaf yn 2012.

Yn dilyn ymgyrch angerddol i’w achub rhag ei ddymchwel, cynigiodd perchnogion Gwesty’r Vulcan yr adeilad i’r Amgueddfa, ac yn 2012 tynnodd tîm adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru yr adeilad yn ddarnau fesul bricsen cyn ei symud i Sain Ffagan.

Mae’r Vulcan, tafarn Fictorianaidd newydd Caerdydd, yn barod i agor ei ddrysau unwaith eto. Mae wedi’i osod ym 1915 yn dilyn cwblhau gwaith adnewyddu mawr sydd yn cynnwys ycwhwanegu teils gwydr i flaen yr adeilad.

Nid oes rhaid archebu lle, ond rydyn ni’n disgwyl iddi fod yn brysur iawn, felly rydyn ni’n awgrymu eich bod yn gwneud rhag cael eich siomi. Sicrhewch eich sedd gyda detholiad o gwrw wedi’i archebu ymlaen llaw, fydd yn rhoi blas o dri cwrw Y Vulcan sydd wedi’u bragu ar ein cyfer gan y bragwyr lleol, Glamorgan Brewing Co. neu Lemonêd Pefriog Traddodiadol Heartsease Farm. Mae pris tocyn yn cynnwys cadw bwrdd.

Dilynwch y ddolen Llogi Cyfleusterau a dewis un o’r dyddiadau cyfyngedig ar gyfer Lock-in neu Nadolig y Vulcan.