Gwesty’r Vulcan
26

Cefndir
Un o brojectau presennol yr Amgueddfa yw ailadeiladu Gwesty’r Vulcan. Ym 1853 codwyd tafarn newydd ar Adam Street yng Nghaerdydd i wasanaethu cymuned New Town, cymuned Wyddelig yn bennaf. Bu’n dyst i newid mawr dros y blynyddoedd wrth i Gaerdydd dyfu yn ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl, cyn cau ei drysau am y tro olaf yn 2012. Byddwn yn dangos y Vulcan fel ag yr oedd ym 1915, blwyddyn bwysig i’r dafarn. Roedd newydd gael ei hadfer yn helaeth, gan osod y teils gwyrdd adnabyddus ar y blaen a gwneud newidiadau i’r ystafelloedd.
Nid y Vulcan oedd yr unig dafarn ar Adam Street – roedd tafarn y Wheat Sheaf dafliad carreg i ffwrdd, a’r Forester’s Arms ddim ymhell i’r cyfeiriad arall. Roedd hi’n ardal liwgar i fyw ynddi ond roedd yno gymuned gref.
Datgymalwyd y tirnod enwog o Gaerdydd yn 2012 gan aelodau staff tîm adeiladau hanesyddol Sain Ffagan.

Cyfrannu
Mae gwesty'r Vulcan yn cael ei ail-adeiladu'n ofalus gan ddefnyddio cerrig gwreiddiol, brics a gwaith coed, pob un yn cael eu gosod yn eu safleoedd gwreiddiol.
Gan bod Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestriedig, rydym yn ceisio cefnogaeth ariannol pellach i gwblhau'r project. Cefnogwch project Gwesty'r Vulcan
Cyfrannu Nawr

Rhannwch eich storïau
Mae'n curaduron eisoes wedi bod allan yn cynnal hanesion llafar gyda chyn-gwsmeriaid a landlordiaid yr hen dafarn yn Adamsdown, gan gofnodi a ffilmio eu profiadau a'u hatgofion. Byddem wrth ein boddau'n cael gwybod mwy, felly os oes gennych unrhyw straeon, ffotograffau neu wrthrychau sy'n gysylltiedig â'r Vulcan, cysylltwch â ni.

Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: 10 Adam Street, Adamsdown, Caerdydd
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1853
- Dodrefnwyd: 1915
- Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 2012, wrthi’n ailadeiladu
- Gwybodaeth ymweld