Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

24

Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Meddyliwch am adeg cyn bod sôn am deledu, cyfryngau cymdeithasol a ffonau symudol. Yn y 1910au, roedd llawer o ddynion i ffwrdd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918), gan gynnwys Brwydr y Somme, ac roedd caledi mawr yng Nghymru a gweddill Prydain. Câi newyddion ei rannu ar lafar yn bennaf, a drwy gyfrwng radio a phapurau newydd.

Dyma oedd hanes y wlad pan adeiladwyd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ym 1916. Roedd sefydliadau’r gweithwyr, neu’r ‘stiwts’ ar lafar gwlad, yn gyffredin yn nhrefi a phentrefi diwydiannol Cymru tua diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Lle gafodd y Sefydliad ei godi yn wreiddiol?

Cafodd y Sefydliad ei godi yn Oakdale, pentref glofaol rhyw 10 milltir i’r gogledd o Gaerffili.

Dyma lun o’r stiwt yn ei leoliad gwreiddiol ynghyd â llun o lle mae nawr, yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Pam gafodd Sefydliad Oakdale ei godi?

Cafodd Oakdale ei adeiladu i ddarparu cyfleusterau addysg a hamdden i’r gweithwyr a’u teuluoedd. Byddai pob math o gymdeithasau’n defnyddio’r stiwt – yn gorau ac yn fandiau, yn golomenwyr ac yn grwpiau drama.

Cynhaliwyd ralïau gwleidyddol, cyngherddau, darlithoedd a dawnsfeydd yma hefyd. Yn ddiweddarach ychwanegwyd sinema a neuadd filiards.

Mae Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn cynnwys tair prif ystafell lawr grisiau: llyfrgell, ystafell ddarllen, ystafell bwyllgor; a neuadd gyngerdd i fyny’r grisiau. Mae cynllun yr adeilad yn debyg iawn i’r adeilad gwreiddiol, fel mae’r lluniau hyn o’r llyfrgell yn dangos.

Roedd llawer o lowyr yn addysgu eu hunain trwy ddarllen, yn enwedig yn ystod streiciau hir. Yn ystod Streic Gyffredinol 1926, dyblodd nifer y llyfrau a fenthycwyd.

Ym 1940 prynodd y llyfrgell y llyfrau How Green Was My Valley gan Richard Llewellyn; The Citadel, nofel am driniaethau meddygol mewn pentref dychmygol yn y de cyn dyddiau’r GIG gan A. J. Cronin; a Seven Pillars of Wisdom gan yr archaeolegydd a’r milwr o Gymru, T. E. Lawrence (Lawrence o Arabia).

‘Mae’n sicr fod llawer wedi astudio yn Sefydliad Oakdale’. Ralph Thomas, Coed Duon, ganwyd 1920.

Pwy adeiladodd Sefydliad Oakdale?

Benthycodd gweithwyr Oakdale arian gan Gwmni Haearn a Glo Tredegar i adeiladu’r stiwt.

Blynyddoedd olaf Sefydliad Oakdale

Roedd Streic Gyffredinol 1926 a Dirwasgiad y 1930au yn gyfnodau anodd i’r gymuned. Roedd llawer o ddiweithdra, ac roedd y stiwt yn cefnogi teuluoedd gymaint â phosibl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth faciwîs, milwyr Americanaidd a Bevin Boys i’r ardal. Daeth hynny ag incwm, ac erbyn 1945 roedd digon o arian yn y coffrau i dalu’r ddyled am godi’r adeilad.

Dirywio wnaeth pethau wedi’r Rhyfel, wrth i geir a theledu newid arferion cymdeithasol a diwylliannol. Roedd ceir yn ei gwneud hi’n llawer haws i deithio’n bellach i gael adloniant. Yn ystod y 1970au cynnar cafodd Sefydliad Oakdale ei droi’n glwb trwyddedig, ac ym 1987 fe gaeodd ei ddrysau am y tro olaf. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd pwll glo Oakdale hefyd wedi cau.

Pryd gafodd Sefydliad Oakdale ei agor yn yr Amgueddfa?

Agorwyd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn swyddogol yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 1995 gan y Gwir Anrh. Neil Kinnock, cyn AS Bedwellty, etholaeth oedd yn cynnwys Oakdale.

Nodweddion diddorol

Heddiw caiff Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ei ddefnyddio ar gyfer seremonïau priodas sifil.

Caiff arddangosfeydd eu trefnu yno, yn ogystal â chynadleddau a gweithgareddau yn ystod digwyddiadau arbennig.

Mae nifer o enwogion yn gysylltiedig ag Oakdale, yn cynnwys Paul Hamlyn, sefydlydd y cwmni cyhoeddi Hamlyn, a weithiodd fel un o’r ‘Bevin Boys’ yng Nglofa Oakdale; Margaret Price, y gantores opera; Joe Calzaghe, y bocsiwr; a rhai o aelodau Manic Street Preachers.

Darllen pellach: Building on strong foundations: Oakdale Workmen’s Institute

Oakdale Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Oakdale, Gwent (Sir Fynwy)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1916
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1989
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1995
  • Gwybodaeth ymweld