Prefab
45


Roedd tai parod, neu pre-fabs fel y caent eu galw, yn ffordd o ddarparu llawer iawn o dai yn sydyn ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn lle rhai o'r rhai a fomiwyd
Roedd dwy ystafell wely ym mhob tŷ, gyda wardrobs cynwysedig, ystafell fyw, cyntedd, cegin osod ac ystafell ymolchi. Roedd ynddo dapiau dŵr poeth a dŵr oer, stof (nwy neu drydan), 'copor' golchi dillad, ac oergell wedi'i gosod.
Gwnaed cyfanswm o dros 153,000 o pre-fabs, yn ogystal â thai parod dau lawr. Roedd pedair fersiwn wahanol, pob un yn defnyddio'r un cynllun fwy neu lai ond wedi'u gwneud o ddefnyddiau gwahanol. Roedd y byngalos alwminiwm, fel yr un sydd yn yr Amgueddfa (Math B2), yn cael eu gwneud mewn ffatrïoedd a fu'n cynhyrchu awyrennau yn ystod y Rhyfel.
Roedd hwn yn un o ddeugain o dai parod o'r fath a godwyd yn Llandinam Crescent ym 1948. Tua deng mlynedd roedd disgwyl iddynt bara ac felly ychydig iawn sydd ar ôl heddiw. Mae'n bosib mai dyma'r unig dŷ pre-fab alwminiwm sydd ar ôl ym Mhrydain.

Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: Llandinam Crescent, Gabalfa, Caerdydd (Morgannwg)
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1947
- Dodrefnwyd: 1950
- Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1998
- Dyddiad agor i'r cyhoedd: 2001
- Gwybodaeth ymweld