Tanerdy Rhaeadr

29

Tua diwedd y 18fed ganrif y codwyd y tanerdy hwn o Raeadr Gwy. Yno, roedd crwyn anifeiliaid yn cael eu troi'n lledr. Hwn oedd y tanerdy traddodiadol olaf i weithio yng Nghymru ac roedd yn arbenigo mewn cynhyrchu lledr trwm ar gyfer esgidiau a thaclau ceffylau

Rhisgl derw oedd y brif elfen a ddefnyddid. Byddai'n cael ei storio a'i falu'n bowdr yn yr ysgubor fawr: mae'r olwyn ddŵr wreiddiol i'w gweld ar dalcen y felin risgl. Byddai'r crwyn yn cael eu mwydo mewn pylla a oedd yn cynnwys cymysgedd o ddŵr a rhisgl, gyda mwy o risgl yn cael ei ychwanegu i'w wneud yn gryfach, cyn eu sgwrio ar y bwrdd carreg. Yna, byddent yn cael eu sychu a'u rholio'n fflat. Byddai'r broses gyfan yn cymryd deunaw mis.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Rhaeadr Gwy, Powys (Sir Faesyfed)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: Diwedd 18fed ganrif
  • Dodrefnwyd: tua 1870
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1962
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1968
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld