Tolldy

16

Beth yw’r adeilad hwn?

Tolldy yw hwn. Dyma lle byddai’r casglwr tollau yn gweithio, yn casglu arian gan deithwyr - ffermwyr yn bennaf - yn dâl am ddefnyddio’r ffordd.

Pwy oedd yn gweithio yma?

Y ceidwad tolldy cyntaf oedd David Jones o Ddihewyd ym 1771. Roedd yn byw yn y tolldy.Costiodd y tolldy hwn £40 i’w adeiladu, oedd yn ddrud iawn yn y cyfnod - bedair gwaith pris bwthyn mwd a tho gwellt. Un ystafell sydd i’r adeilad, gydag un pen yn cael ei ddefnyddio i gasglu’r tollau a’r pen arall yn ystafell fyw gyda lle tân.

Byddai David yn cysgu yno mewn gwely bocs i’w warchod rhag y drafft!

Mae’r arwydd hwn ar ochr yr adeilad yn dangos y gwahanol brisiau ar gyfer cerbydau ac anifeiliaid.

Bwrdd Tolldy Gât Ddeheuol Aberystwyth

Lle cafodd y tolldy ei adeiladu yn wreiddiol?

Adeiladwyd y tolldy hwn ym Mhenparcau, Aberystwyth ym 1771. Roedd ar agor tan 1889.

Pam fod tolldai wedi’u hadeiladu yng Nghymru?

Yn union fel heddiw, roedd cost teithio yn bwnc llosg 200 mlynedd yn ôl! Yr adeg honno, cyfrifoldeb y cwmnïau tyrpeg oedd adeiladu a chynnal y ffyrdd. Byddai’r cwmnïau hyn yn benthyg arian gan dirfeddianwyr cefnog ac yna’n gosod clwydi, bariau neu gadwyni ar draws y ffyrdd. Ffermwyr tlawd a ddefnyddiai’r ffyrdd hyn ar y cyfan. Roeddent eisoes yn talu rhent i’r tirfeddianwyr cefnog, a degfed rhan o’u hincwm (degwm) i’r Eglwys. Roeddent yn aml yn gorfod talu ddwywaith y diwrnod i ddefnyddio’r ffyrdd.

Yn y pen draw arweiniodd hyn at brotestiadau a therfysgoedd yn y de-orllewin - Terfysgoedd Rebeca. Arweinydd cyntaf y gwrthryfel oedd Thomas Rees, neu Twm Carnabwth. Fe wnaeth Twm fenthyg ffrog gan ddynes o’r enw Rebecca, gan roi’r enw Merched Beca i’r gwrthryfelwyr.

Mae’n bosib hefyd bod yr enw wedi dod o Lyfr Genesis: ‘Ac a fendithiasant Rebbecah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt...ac etifedded dy had borth ei gaseion.’

Byddai’r dynion yn pardduo eu hwynebau ac yn gwisgo fel menywod i osgoi cael eu hadnabod. Rhwng 1839 a 1844, cafodd 250 o dolldai a gatiau eu targedu yn y de-orllewin.

Terfysgoedd Beca

Anfonwyd milwyr i reoli’r sefyllfa ac arestio’r protestwyr. Carcharwyd nifer a chafodd rhai o’r arweinwyr eu halltudio i Awstralia. Ond hyd yn oed yn wyneb protest gyhoeddus mor gryf, bu’r tolldai ar waith am flynyddoedd wedi hynny.

Pryd gafodd y tolldy hwn ei symud i’r Amgueddfa?

Cafodd y tolldy ei ail-godi yn yr Amgueddfa ym 1968.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae ‘Hosts of Rebecca’ gan Alexander Cordell a ‘The Rebecca Rioter’ gan Amy Dillwyn yn nofelau sydd wedi’u seilio ar y terfysgoedd.

Ysgrifennodd Dylan Thomas sgript ar gyfer y ffilm Rebecca’s Daughters ym 1948, ond ni chafodd ei rhyddhau nes 1992. Yn serennu yn y ffilm roedd Peter O’Toole a Paul Rhys, a chafodd ei chyfarwyddo gan Karl Francis.

Mae gan deulu Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru, gysylltiadau â Therfysgoedd Rebeca.

Tollhouse Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion (Sir Aberteifi)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1771
  • Dodrefnwyd: 1843
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1962
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1968
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld