Tai Teras Rhyd-y-car

44

Richard Crawshay a gododd y rhes fechan hon tua 1795 ar gyfer gweithwyr yn ei gloddfa mwyn haearn. Yn wreiddiol, roedd dwy res o dai, ar ongl sgwâr i'w gilydd, a'r rhain oedd y chwe thŷ cyntaf i'w codi. Ym mhob tŷ, ceir ystafell fyw gydag ystafell wely uwch ei phen. I gyrraedd yno, rhaid dringo grisiau crwn, serth ger y lle tân. Mae ail ystafell wely a phantri bychan yn y cefn o dan do is sy'n dilyn goledd y prif do (to 'cat-slide').

Mae'r chwe thŷ yn cynrychioli gwahanol gyfnodau yn eu hanes, sef 1805, 1855, 1895, 1925, 1955 a 1985. Fel hyn, gellir gweld y newidiadau i'r adeiladau, eu cynnwys a'u gerddi. Merthyr oedd tref fwyaf Cymru rhwng 1800 a 1860 ond doedd dim cyfleusterau sylfaenol fel dŵr tap a thoiledau.

O tua 1850, gwelwyd gwelliant mewn amodau byw; daeth glo i gymryd lle haearn fel y diwydiant pwysicaf. Mae'r cwt colomennod yng ngardd tŷ 1925 a'r sied fyw yn nhŷ 1955 yn nodweddiadol o'r ardal. Y tu ôl i'r sied fyw, mae Lloches Anderson. Codwyd miloedd o'r cytiau sinc hyn ledled de Cymru ym mlynyddoedd cyntaf yr Ail Ryfel Byd, pan oedd bygythiad y bomiau o'r awyr ar ei fwyaf. Ar ôl y rhyfel, trowyd llawer, fel hwn, yn gytiau gardd.

Rhydycar Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Merthyr Tudful, Morgannwg
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1795
  • Dodrefnwyd: 1805/1855/1895/1925/1955/1985
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1982/83
  • Gwybodaeth ymweld