Oriel Byw a Bod

4

Dyma oriel sy’n canfod rhyfeddodau yn y pethau bychain. Yma cewch fusnesu ym mywydau pob dydd pobl Cymru, drwy’r cenedlaethau. Caiff hanesion pobl eu hadrodd yn eu geiriau nhw eu hunain, a thrwy’r gwrthrychau oedd yn bwysig iddynt.

Mae pob math o straeon yma – o Avis Evans yn paratoi am noson allan yng Nghasllwchwr yn y 1930au, i Rhys ap Thomas yn defnyddio’r cerfiadau ar ei wely i frolio’i ddewrder ym Mrwydr Bosworth. Gwrandewch ar William Vizard, un o’r ychydig lowyr a oroesodd drychineb Senghennydd, neu Luigi Rabaiotti yn sôn am y peiriant coffi ddaeth i Gymru o’r Eidal gyda’i deulu ym 1921. Edrychwch ar y dillad fu pobl yn eu gwisgo, Sul, gŵyl a gwaith – a gwisgo rhai eich hun.

Mae pob agwedd ar fywyd yn cael sylw, gan gynnwys diwedd y daith. Cawn gip ar y gwahanol ffyrdd o ddelio â marwolaeth dros y canrifoedd, a sut ydym yn cofio a choffáu ein hanwyliaid. I godi’r ysbryd, mae cyfle i chwarae gemau, a chanu ambell gân ar y piano. Mae pob math o offer coginio yma hefyd – o Oes yr Haearn hyd heddiw – a chyfarpar ar gyfer ffermio, gwaith ffatri a mwyngloddio. Cewch hyd yn oed eistedd ar hen dractor Ffyrgi!