Ffermdy ac iard Llwyn-yr-eos
10
11


Fferm wedi'i gosod i denantiaid oedd Llwyn-yr-eos ar ystâd Plymouth, o'r 18fed ganrif ymlaen os nad cynt. Codwyd y ffermdy presennol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond mae'n ymddangos yn awr fel fferm sylweddol o'r 1930au, gyda goleuadau nwy yn y tŷ a dodrefn cyfforddus o ddechrau'r 20fed ganrif.
Ar y buarth, mae ysgubor a godwyd tua 1820, gyda newidiadau mawr yn y 1890au. Mae yma injan olew a pheiriannau i baratoi bwyd i'r anifeiliaid. Ymhlith yr adeiladau eraill mae bragdy, tylciau moch, cwt gwyddau, cytiau lloi a stabl.
Yn y cwt ar y talcen, ceir tractorau cynnar ac offer i'w tynnu gan geffylau oedd yn dal i gael eu defnyddio cyn y rhyfel. Ger y stabl, mae bwthyn bychan lle'r oedd y gwas a'i deulu'n byw. Prynwyd y fferm oddi wrth Ystâd Plymouth ym mis Mehefin 1981.

Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: Sain Ffagan, Morgannwg
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1850
- Dodrefnwyd: 1930s
- Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1981
- Statws rhestredig: Gradd 2
- Gwybodaeth ymweld