Cofeb Ryfel Trecelyn
23


Cofeb fechan, wedi'i chodi o garreg Portland ym 1936, i gofio am saith deg naw o ddynion o Drecelyn a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac sydd â'u henwau wedi'u cofnodi ar blac efydd ar ochr chwith y gofeb. Yn nes ymlaen, ychwanegwyd ail blac, ar ochr dde'r gofeb, i gofnodi enwau 37 o ddynion lleol eraill a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. O dan ddyddiadau'r ddau ryfel, cerfiwyd y geiriau: 'At the going down of the sun and in the morning we will remember them'.
Rhoddwyd y gofeb i'r Amgueddfa ym 1995 pan agorwyd gardd goffa newydd yng nghanol Trecelyn. Cafodd ei hailgysegru ar 19 Hydref 1996 gan Archesgob Cymru. Cynhelir gwasanaeth arbennig wrth y gofeb yn yr Amgueddfa am 11 y bore ar Ddiwrnod y Cofio bob blwyddyn (11 Tachwedd).
Cliciwch yma i ymweld â'r wefan Cofeb Ryfel Newbridge.

Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: Parc Caetwmpyn, Trecelyn (Sir Fynwy)
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1936
- Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1995
- Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1996
- Gwybodaeth ymweld