Digwyddiadau yn y Vulcan
Cafodd Gwesty'r Vulcan ei gofrestru fel tafarn (ale house) ym 1853, i wasanaethu’r gymuned Wyddelig yn bennaf yn lle oedd yn cael ei alw’n Newtown ar y pryd. Yn ystod ei hanes hir, gwelodd newidiadau mawr wrth i Gaerdydd dyfu yn bŵer diwydiannol a phrif ddinas y wlad, cyn cau ei ddrysau am y tro olaf yn 2012.
Yn dilyn ymgyrch angerddol i’w achub rhag ei ddymchwel, cynigiodd perchnogion Gwesty’r Vulcan yr adeilad i’r Amgueddfa, ac yn 2012 tynnodd tîm adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru yr adeilad yn ddarnau fesul bricsen cyn ei symud i Sain Ffagan.
Mae’r Vulcan, tafarn Fictorianaidd newydd Caerdydd, yn barod i agor ei ddrysau unwaith eto. Mae wedi’i osod ym 1915 yn dilyn cwblhau gwaith adnewyddu mawr sydd yn cynnwys ycwhwanegu teils gwydr i flaen yr adeilad.
Hoffai Amgueddfa Cymru ddiolch i Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson, Ymddiriedolaeth Elusennol Swire ac Ymddiriedolaeth Radcliffe, yn ogystal ag unigolion a theuluoedd sydd wedi cyfrannu’n hael i wneud y gwaith o ail-godi’r Vulcan yn bosib.