Dysgu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes ysbrydoledig cyfraniad ein cenedl i ddiwydiant ac arloesedd ddoe, heddiw ac yfory.
Daw’r hanes yn fyw mewn rhaglen gyffrous ar gyfer ysgolion cynradd, gan gynnwys ffyrdd newydd o’ch helpu i gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Diwygiedig.
Bydd plant nid yn unig yn dysgu am hanes ond hefyd daearyddiaeth, TGCh, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, celf a llythrennedd. Bydd ymgysylltu â delweddau, gwrthrychau a seiniau gwahanol yn creu ymdeimlad o berthyn i Gymru a dealltwriaeth o’n treftadaeth ni.
Mae’r amgueddfa yn siŵr o’ch ysgogi a’ch ysbrydoli chi a’ch disgyblion y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Trwy feddwl, siarad a gwneud fel rhan o weithgareddau heriol a rhyngweithiol, cewch brofiad cofiadwy heb ei ail. Cliciwch isod am amlinelliad llawn o gynnwys y sesiwn.