Adnoddau Dysgu

Hanes Merched Cymru 1900-1918

Ychydig o sylw a roddwyd i leisiau menywod Cymru yn hanesyddiaeth y wlad hyd yma - prin yw'r merched o haneswyr ac nid oes lle amlwg i ferched yn y llyfrau hanes chwaith. Mae cyhoeddiadau fel y casgliad o ysgrifau hanesyddol Our Mothers' Land yn tynnu sylw at yr anghydbwysedd hwn ac yn gosod y sylfeini ar gyfer rhagor o ymchwil. Mae'r ffaith bog angen dysgu hanes merched fel pwnc ar wahân yn arwydd o'r diffyg hwn. Un rheswm a roddir yn aml i esbonio pam na roddir rhagor o sylw i hanes merched yng nghwricwlwm yr ysgolion yw diffyg adnoddau. Bwriad y pecyn hwn yw datrys y broblem honno.

Seilir y pecyn hwn yn bennaf ar y cyfoeth o archifau a geir yn Amgueddfa Werin Cymru a'r bwriad yw cyflwyno adnoddau gweledol, llafar ac ysgrifenedig sy'n ymwneud â phrofiadau menywod rhwng 1900 a 1918. Detholiad bychan o'r defnyddiau sydd ar gael yw hwn ond gobeithio y bydd o gymorth i chi i dynnu darlun o'r gorffennol ac y bydd yn eich galluogi i werthfawrogi pa mor amrywiol oedd profiadau menywod yn y cyfnod o dan sylw.

 

Hanes Merched Cymru

 

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Mrs George, Pontypool

Mrs George, Pont-y-pwl, yn golchi â thwb doli, tua 1900. Prin yw'r lluniau o waith ty yn y cyfnod hwn.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk