Hanes Merched Cymru 1900–1918

Golchi'r pafin o flaen y tŷ, 1930au.

Mrs Blodwen Williams, Ynys–y–bŵl yn golchi'r pafin o flaen ei thŷ, 1930au.

A photograph of women in Mary Ann Street, Cardiff in 1893

Merched yn Stryd Mary Ann, Caerdydd ym 1893.

Gelli Cadwgan farm, Builth Wells, 1917

Merched Byddin y Tir yn gweithio adeg y cynhaeaf ar fferm Gelli Cadwgan, Llanfair ym Muallt, ym 1917.

Ychydig o sylw a roddwyd i leisiau menywod Cymru yn hanesyddiaeth y wlad hyd yma - prin yw'r merched o haneswyr ac nid oes lee amlwg i ferched yn y llyfrau hanes chwaith. Mae cyhoeddiadau fel y casgliad o ysgrifau hanesyddol Our Mothers' Land yn tynnu sylw at yr anghydbwysedd hwn ac yn gosod y sylfeini ar gyfer rhagor o ymchwil. Mae'r ffaith bog angen dysgu hanes merched fel pwnc ar wahân yn arwydd o'r diffyg hwn. Un rheswm a roddir yn aml i esbonio pam na roddir rhagor o sylw i hanes merched yng nghwricwlwm yr ysgolion yw diffyg adnoddau. Bwriad y pecyn hwn yw datrys y broblem honno.

Seilir y pecyn hwn yn bennaf ar y cyfoeth o archifau a geir yn Amgueddfa Werin Cymru a'r bwriad yw cyflwyno adnoddau gweledol, llafar ac ysgrifenedig sy'n ymwneud â phrofiadau menywod rhwng 1900 a 1918. Detholiad bychan o'r defnyddiau sydd ar gael yw hwn ond gobeithio y bydd o gymorth i chi i dynnu darlun o'r gorffennol ac y bydd yn eich galluogi i werthfawrogi pa mor amrywiol oedd profiadau menywod yn y cyfnod o dan sylw.

Y Ffotograffau

Mae'r ffotograffau'n dangos gwahanol agweddau ar fywydau menywod. Maent yn cynnwys gwaith cyflogedig a digyflog; gweithgareddau parchus (e.e. capel, côr ac eisteddfodau); chwaraeon ac adloniant; gweithgareddau lles, tlodi a phrotest; a phrofiadau'r rhyfel. Mae gennym ychydig o wybodaeth am y ffotograffau. Os gwyddom enw'r sawl sydd yn y llun, y lleoliad a dyddiad y llun, fe'u nodwyd.

Y Profiadau Llafar

Gall hanes llafar fod o gymorth mawr i roi gwybod i ni am ddigwyddiadau'r gorffennol. Mae'n rhoi golwg bersonol ar faterion a digwyddiadau lleol a chenedlaethol.

Dewiswyd nifer o ddarnau, rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg. Mae trawsgrifiadau o'r cyfweliadau gwreiddiol a chyfieithiadau o'r rhai Cymraeg. Gwnaed pob ymdrech i gynnwys amrywiaeth o brofiadau o wahanol rannau o Gymru. Dewiswyd siaradwyr o wahanol gefndiroedd a rhai a gafodd wahanol brofiadau. Mae Kate Roberts, a oedd yn nofelydd ac yn berchennog gwasg argraffu, a Cecil Lewis, a aned yn Nhreforus, yn cofio am waith caled eu mamau, ac mae Mrs H. M. Walters o Lwynypia, a Mrs Kate Davies o Landysul yn dwyn eu profiadau eu hunain i gof.