Creu a Gwneud
Gêm Fwrdd Ffosileiddio Ffyrnig
Canran fechan iawn o’r holl anifeiliaid a phlanhigion fu’n byw ar y blaned hon sydd wedi troi’n ffosilau.
Bwriad y gêm hon yw gweld os gall eich anifail chi droi’n ffosil a chael ei arddangos yn yr Amgueddfa. Gan fod troi’n ffosil mor annhebygol, mae llawer o droeon trwstan ar y daith – felly nid yw hon yn gêm hawdd iawn i’w ennill.
Hyd:
45 munud
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Gêm Fwrdd Ffosileiddio Ffyrnig
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk