Her yr Olwyn Ddŵr
Wyddoch chi mai'r Amgueddfa Lechi yw cartref yr olwyn ddŵr weithredol fwyaf ar dir mawr Prydain? Dewch i ddysgu am ryfeddodau pŵer dŵr a'r defnydd dyfeisgar o ynni naturiol i bweru'r safle. Cewch weld ein dwy olwyn ddŵr ar waith, cyn i ddisgyblion wynebu'r her o ddylunio ac adeiladu eu holwynion dŵr eu hunain yn Neuadd Bŵer fawreddog yr amgueddfa. Gweithgaredd ymarferol gwych i ddatblygu sgiliau STEM!
'Mae'r lleoliad yn arbennig o dda i ddangos i blant sut mae gwyddoniaeth o'n cwmpas ym mywyd pob dydd ar waith 'go iawn' ac yn rhoi y gweithgareddau o fewn cyd destun. Roedd gweld yr olwyn fawr a'r inclen ar waith yn sbarduno syniadau'r disgyblion i feddwl yn greadigol.' Lynne Hughes-Williams, Ysgol Gwaun Gynfi
Cwricwlwm
Gwyddoniaeth a Thechnoleg -
- Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
- Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.
Nodau dysgu:
- Defnyddio olwynion hanesyddol y casgliad fel ysbrydoliaeth i ddylunio olwyn ddŵr
- Cyfuno gwrthrychau pob-dydd i adeiladu olwyn weithredol effeithiol
- Archwilio sut mae symudedd yr olwyn yn cael ei effeithio gan gyflwyno neu newid grymoedd penodol
- Trafod ac egluro'r symudiad egni o'r dŵr i'r olwyn, a sut y gellir defnyddio hyn i ddarparu'r ynni sydd ei angen i'n bywydau pob dydd
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702