Am ddim Yn yr ysgol

Google Expeditions - Rhyd-y-car: Cartrefi drwy Amser

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Rhyd-y-Car-Cynllun-y-Wers.pdf

Google Expedition Rhyd-y-car: Cynllun y Wers

Gan weithio gyda Google Arts and Culture rydym wedi creu taith realiti rhithwir (VR) newydd o dai teras Rhyd-y-car. Mae’r daith VR yn rhan o fyd cyffrous Google Expeditions.

Ar y rhith-daith cewch ymweld â chwe chartref ar hyd y teras i weld sut mae’r ystafelloedd, y dodrefn a’r cynnwys yn newid rhwng 1805 a 1985. 

I archwilio taith VR Rhyd-y-car, chwiliwch am ‘Sain Ffagan’ neu ‘Rhyd-y-car’ yn ap Google Expeditions a lawrlwythwch y daith. Neu cliciwch yma am god QR fydd yn mynd â chi’n syth i’r daith ar ap Google Expeditions.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.