Streic! Gweithdy Rhithiol
Ymunwch a ni ym Methesda, 1901 i ddysgu mwy am hanes Streic Fawr y Penrhyn, y streic hiraf yn hanes Prydain. Mewn fideo cyn y sesiwn cewch glywed stori Leusa, wrth i helyntion colli Pwtan y gath ddangos sut brofiad oedd byw yn y pentref yn ystod cyfnod y streic. Yna, bydd ein hwylusydd yn eich tywys o gwmpas ty 1901 yn rhithiol gan ddefnyddio technoleg 360Scan, a bydd cyfle i holi cwestiynau. Cewch hefyd drin a thrafod gwrthrychau a dogfennau o’r cyfnod i ddysgu mwy am pam ddigwyddodd y streic a sut effaith y cafodd hyn ar y gymuned.
Cwricwlwm
Bydd y sesiwn yn trafod syniadau am degwch, hawliau, protest a chyd-sefyll.
Mae'r pecyn post-sesiwn yn cynnwys awgrymiadau gweithgareddau sy'n cwmpasu'r 6 MDaPh yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702