Gweithdy Amgueddfa

Fron Haul: Teithio trwy amser

Sut mae'r ffyrdd mae pobl yn byw wedi newid dros amser? Dewch am daith drwy Fron Haul, rhes o dai chwarelwyr, gyda'n hwylusydd i chwilio am gliwiau a darganfod sut oedd teuluoedd yn coginio, ymolchi, cysgu a chymdeithasu yn 1861, 1901 ac 1969.

Hyd: 45 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Dyniaethau - Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Nodau Dysgu - 

  • Drwy archwilio'r tai a gwrthrychau, gallu adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng bywydau pobl yn y gorffennol a'r presennol.
  • Gallu adnabod sut newidiodd agweddau gwahanol o fywydau mewn cymunedau chwarelyddol dros amser.
  • I ystyried sut newidiodd ffyrdd pobl o fyw oherwydd newidiadau megis dyfeisio trydan.
Amgueddfa Lechi Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702

Adnoddau

Cyffredinol

Llyfryn Fron Haul