e-Llyfr

Stiwt Oakdale | Canrif o Hanes

Yn 2019, bydd hi’n ddeng mlynedd ar hugain ers datgymalu Sefydliad y Gweithwyr Oakdale a’i symud yma i’r Amgueddfa. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol ym 1916-17 gan gymuned lofaol Oakdale. Bellach, y Stiwt yw un o’r adeiladau mwyaf poblogaidd a chyfarwydd yn yr Amgueddfa. 

Yma, byddwn yn edrych yn ôl dros ganrif gyntaf y Stiwt trwy lygaid y bobl fu’n gweithio ac yn hamddena o fewn ei muriau.

Lawrlwythwch fersiwn PDF isod.