Adnodd Dysgu

Blancedi Cymreig | Harddwch, Cynhesrwydd, ac Atgof o Adref

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre yn gartref i gasgliad cynhwysfawr o offer a pheiriannau sy'n ymwneud â hanes prosesu cnu gwlân yn frethyn. Mae yno hefyd gasgliad tecstilau gwastad cenedlaethol a'r casgliad gorau o flancedi gwlân Cymreig gyda lleolbwynt wedi'i dogfennu sy'n dyddio'n ôl i'r 1850au. Mae'r rhain yn amrywio o flancedi tapestri brethyn dwbl mawr sydd bellach yn gasgladwy iawn, i flancedi iwtiliti sengl, gwyn o'r Ail Ryfel Byd.

Darganfyddwch fwy am y broses gwneud ffabrig yma