Gweithdy Rhithiol

Fron Haul: Teithio Trwy Amser (Gweithdy Rhithiol)

Gweithdy yn siarad am hanes diwylliant y chwareli trwy edrych ar dai arbennig Fron Haul.

Er bod yr amgueddfa ar gau a dim modd i fynd i’r tai ar hyn o bryd, dyma gyfle unigryw i thrafod gwrthrychau o’n casgliad tra’n edrych ar sganiau 360 o’r tai, yn dod â’r tai yn fyw i mewn yn y stafell ddosbarth.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol. 
  • Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl. 
  • Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae bod yn chwilfrydig  a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau

Nodau Dysgu

  • Drwy archwilio'r tai a gwrthrychau, gallu adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng bywydau pobl yn y gorffennol a'r presennol. 
  • Gallu adnabod sut newidiodd agweddau gwahanol o fywydau mewn cymunedau chwarelyddol dros amser. 
  • I ystyried sut newidiodd ffyrdd pobl o fyw oherwydd newidiadau megis dyfeisio trydan.
Amgueddfa Lechi Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702

Adnoddau