Gweithdy Rhithiol

Gwrthrychau 60au (Gweithdy Rhithiol)

Ymunwch â ni yn y “Swinging Sixties” i ddysgu am arferion y cyfnod lliwgar a trawsnewidiol yma yng Nghymru. 

Trwy drafod gwrthrychau o gasgliad yr amgueddfa, cewch drafod am fwyd, ffasiwn ac arferion y ddegawd yn ogystal â dysgu am newidiadau oedd yn digwydd yn y gymdeithas yn ehangach ac o gwmpas y byd. 

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol. 
  • Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl
Amgueddfa Lechi Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702