Gwirfoddoli Unigol
Cyfleon Cyfredol
Llysgennad Gwirfoddol, Amgueddfa Lechi Cymru
Pwrpas y rôl:Mae Llysgenhadon Gwirfoddoli yn ffrindiau allweddol i Amgueddfa Cymru ac yn dathlu ein gwaith. Maen nhw'n cydweithio gyda'r Amgueddfa ac yn ein cefnogi i wella ac ehangu ein gwasanaethau cymunedol.
Sut i Gymryd Rhan?
- Cofiwch ddarllen y Disgrifiad Rôl i wneud yn siŵr mai dyma'r rôl gywir i chi. Cofiwch ystyried yr ymrwymiad amser ac unrhyw ystyriaethau eraill rydyn ni wedi'u cynnwys.
- Cwblhewch y ffurflen ar-lein.
- Os oes well gennych fersiwn PDF, lawrlwytho’r Ffurflen Gofrestru PDF a'i dychwelyd at gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy'r post at Adran Ymgysylltu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd CF5 6XB.
Rydyn ni'n derbyn ceisiadau dros y ffôn hefyd, neu drwy fideo neu glip sain byr. Ffoniwch (029) 2057 3002 am ragor o wybodaeth. - Os cewch chi eich dewis ar gyfer y rôl, byddwn ni’n cysylltu dros e-bost. Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfod anffurfiol neu ddiwrnod agored grŵp.
Allwn ni ddim gwarantu lle, ond rydyn ni'n sicrhau bod pob cais yn cael ei drin yn deg a bod pob un yn cael ei gyflwyno i oruchwyliwr y rôl i'w ystyried.
Rydym ni gyda ffurflen arlein newydd. Mae ffurflen pdf ar gael i'w gyrru drwy e-bost os oes gennych drafferth gyda'r ffurflen arlein newydd.