Gwirfoddoli Unigol

  • Gwirfoddolwr yn gwisgo crys-t gwirfoddoli coch, yn dyfrio blodau yn nôl drefol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
  • Lleoliad gwaith myfyriwr yn edrych ar arteffact bach gan ddefnyddio chwyddwydr.
  • Dau wirfoddolwr yn gwisgo cotiau coch gwirfoddoli, yn gwenu tuag at y camera.
  • Dau berson yn eistedd yn nyddu edafedd neu'n gwau.
  • Lleoliad gwaith myfyriwr gyda'r gof, yn gweithio yn yr efail.
  • Gwirfoddolwr yn gwenu at y camera.

Cyfleon Cyfredol

Gwirfoddolwyr Archwilio, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Dyddiad cau: 16 Ionawr 2026 (erbyn 5pm)
Byddwch chi’n dod â'r Amgueddfa yn fyw i ymwelwyr o bob oed! Byddwch chi'n helpu ymwelwyr i drin a thrafod gwrthrychau o'r casgliadau, chwarae gemau a dod o hyd i'w ffordd o gwmpas.

Sut i Gymryd Rhan?

  1. Cofiwch ddarllen y Disgrifiad Rôl i wneud yn siŵr mai dyma'r rôl gywir i chi. Cofiwch ystyried yr ymrwymiad amser ac unrhyw ystyriaethau eraill rydyn ni wedi'u cynnwys.
  2. Cwblhewch y ffurflen ar-lein.
  3. Os oes well gennych fersiwn PDF, lawrlwytho’r Ffurflen Gofrestru PDF a'i dychwelyd at gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy'r post at Adran Ymgysylltu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd CF5 6XB.          
    Rydyn ni'n derbyn ceisiadau dros y ffôn hefyd, neu drwy fideo neu glip sain byr. Ffoniwch (029) 2057 3002 am ragor o wybodaeth.
  4. Os cewch chi eich dewis ar gyfer y rôl, byddwn ni’n cysylltu dros e-bost. Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfod anffurfiol neu ddiwrnod agored grŵp.              
    Allwn ni ddim gwarantu lle, ond rydyn ni'n sicrhau bod pob cais yn cael ei drin yn deg a bod pob un yn cael ei gyflwyno i oruchwyliwr y rôl i'w ystyried.

Cwblhau’r Ffurflen Ar-lein 

Rydym ni gyda ffurflen arlein newydd. Mae ffurflen pdf ar gael i'w gyrru drwy e-bost os oes gennych drafferth gyda'r ffurflen arlein newydd.