Atodiad 1: Ein haddewid i bob plentyn

Mae pawb yma yn Amgueddfa Cymru yn ymrwymo i sicrhau eich bod chi'n mwynhau gymaint â phosibl wrth ymweld â ni. Rydym ni’n cefnogi ac yn hyrwyddo hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Rydym ni'n addo:

  • eich croesawu
  • eich trin yn deg
  • gwneud yn siŵr bod pob aelod o staff a gwirfoddolwr yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau wrth eich cadw chi’n ddiogel
  • gwrando arnoch
  • gofalu am eich lles a meithrin eich creadigrwydd, addysg a mwynhad.