Dysgu yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Big Pit yw un o atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw Cymru.
Dyma un o’r ychydig amgueddfeydd glofaol sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr deithio mewn caets i grombil y pwll ac ymweld â’r llefydd lle bu sawl cenhedlaeth o lowyr yn llafurio. Adeiladau gwreiddiol y lofa yw llawer o’r arddangosfeydd pen pwll.