Dysgu yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Teithiau Dan Ddaear AM DDIM i ysgolion sy’n ymweld â’r Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru!

Ydych chi erioed wedi meddwl sut oedd bywyd i’r dynion, menywod a phlant oedd yn gweithio dan ddaear? Roedd Big Pit yn bwll glo ar un adeg, ac erbyn heddiw mae’n amgueddfa lle cewch glywed cyn-lowyr yn adrodd eu hanesion. Cewch fynd ar daith 90 medr i grombil y ddaear i weld sut beth oedd gweithio mewn pwll glo. Mae digon i’w wneud ar yr wyneb hefyd – taith amlgyfrwng gyda glöwr rhithwir yn yr Orielau Glofaol, arddangosfeydd yn y Baddondai Pen Pwll, a phob math o adeiladau hanesyddol i’w harchwilio. Yn ein gweithdai wedi’u hwyluso, bydd ein tîm Addysg yn eich tywys drwy 300 miliwn o flynyddoedd o hanes Cymru.

Ymweliad ysgol i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Gweithdy Amgueddfa

Gweithdy Rhithiol

Adnoddau i'w defnyddio yn yr Amgueddfa

Adnoddau Ystafell Ddosbarth

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Blaenafon
Torfaen
NP4 9XP

Manylion Mynediad

Archebu lle

Anghenion Ychwanegol

Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch

Polisi a Gweithdrefnau Diogelu Plant