Hafan y Blog

Dyddiadur Kate: Anwen a’r Groes Goch

Elen Phillips, 17 Gorffennaf 2015

Yn ei dyddiadur heddiw (17 Gorffennaf), mae Kate yn crybwyll bod ei ffrind, Anwen Roberts, wedi cael "notice i gael cowpog oddiwrth y Red Cross". Heblaw am ambell gyfeiriad at gasglu arian er budd y Belgiaid, dyma'r unig gyfeiriad yn y dyddiadur hyd yn hyn at waith gwirfoddol ar y ffrynt cartref - un o nodweddion amlycaf yr ymgyrch ryfel ym Mhrydain.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd bron i 18,000 o elusennau newydd ym Mhrydain ac fe welwyd ymgyrchu gwirfoddol ar raddfa heb ei debyg o'r blaen. Ynghyd ag Urdd San Ioan, roedd y Groes Goch Brydeinig yn ganolog i'r ymgyrch hon. Yn 1909, daeth y ddwy elusen ynghyd i sefydlu cynllun y Voluntary Aid Detachment (VAD), gyda'r bwriad o roi hyfforddiant meddygol i wirfoddolwyr a'u paratoi i wasanaethu gartref a thramor mewn cyfnodau o ryfel. Yn ôl ystadegau'r Groes Goch, erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd 90,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun - yn eu plith Anwen Roberts o'r Fedwarian Isaf, Llyncil, ger y Bala.

Dim ond menywod rhwng 23 a 38 mlwydd oedd â'r hawl i wirfoddoli fel nyrs VAD gyda'r Groes Goch. Yn y lle cyntaf, roedd hi'n ofynnol i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais a chael cyfweliad o flaen panel o swyddogion. Wedi hyn, roedd y rhai llwyddiannus yn cael eu galw am brawf meddygol a'u brechu rhag heintiau peryglus. Dyma oedd yn wynebu Anwen ar 17 Gorffennaf 1915 pan gafodd "cowpog" (buchfrechiad) rhag y frech wen. Yr wythnos ganlynol, cyhoeddwyd nodyn byr yn Y Cymro am ymgais Anwen ac eraill i ymuno â'r Groes Goch:

Cynnyg eu hunain - Y mae rhyw wyth neu ddeg o ferched ieuainc wedi cynnyg eu hunain i'r Red Cross. Galwyd ar Miss Mair Roberts, Brynmelyn, Talybont, a Miss Anwen Roberts i gael arholiad feddygol i Lerpwl y dydd o'r blaen. Ni chawsant wybod y canlyniad eto. [Y Cymro 21 Gorffennaf 1915]

Mae tystiolaeth yn Amgueddfa ac Archifau'r Groes Goch ym Moorfields, Llundain, yn cadarnhau fod Anwen wedi llwyddo yn yr arholiad meddygol. Ymysg y dogfennau sydd ar gof a chadw yno mae casgliad pwysig o gardiau indecs sy'n cofnodi manylion personol nyrsys VAD o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cael eu trawsgrifio, fesul llythyren, gan wirfoddolwyr. Gallwch weld cyfran helaeth ohonynt ar wefan y Groes Goch.

Er nad yw manylion Anwen ar y wefan eto, mae staff y Groes Goch wedi bod yn chwilota'r archif ar ein rhan. Mae'r wybodaeth ar gardiau gwasanaeth Anwen (mae tri cherdyn i gyd) yn hynod ddiddorol ac yn anarferol o amrywiol. Ar ôl cwblhau'r meini prawf, bu'n gweithio o Hydref 1915 tan Ragfyr 1917 mewn ysbyty milwrol yng Nghasnewydd “Mil. Hosp. Newport, Cardiff" yw'r union eiriau ar gefn y cerdyn cyntaf. Cangen Casnewydd o'r 3rd Western General Hospital oedd yr ysbyty dan sylw. Roedd pencadlys yr ysbyty hwn yng Nghaerdydd, ar Ffordd Casnewydd fel mae'n digwydd.

Mae'r ail gerdyn yn dangos fod Anwen yn derbyn cyflog o £20 y flwyddyn o Dachwedd 1916 ymlaen. Fel rheol, roedd nyrsys VAD yn gweithio'n wirfoddol mewn ysbytai ymadfer (auxiliary hospitals). Ond yn Chwefror 1915 fe ganiataodd y Swyddfa Ryfel i rai, fel Anwen, weithio mewn ysbytai milwrol o dan oruchwyliaeth nyrsys proffesiynol a derbyn cyflog am eu gwasanaeth.

Mae'r cerdyn olaf yn dangos ei bod hefyd wedi gwirfoddoli mewn ysbyty ymadfer yn nes at ei chartref ym Meirionnydd. Ym Mehefin 1917 agorwyd ysbyty yn Neuadd Palé ger Llandderfel, a bu Anwen yn gwasanaethu yno o Awst 1917 tan Orffennaf 1918. Am gyfnod, roedd hi'n gweithio yn Llandderfel a Chasnewydd ar yr un pryd.

Os hoffech ddarganfod mwy am waith y Groes Goch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae adnoddau gwych ar wefan y mudiad, gan gynnwys rhestr o'r holl ysbytai ymadfer a agorwyd ym Mhrydain. Mae llu o wrthrychau a delweddau perthnasol yn y casgliad yma yn Sain Ffagan hefyd. Ewch draw i'r catalog digidol i ddarganfod mwy.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Elen Phillips

Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.