Blog y Bwydydd Adar
17 Hydref 2008
,Helo ’na bawb! Gobeithio eich bod chi’n mwynhau gwylio’r camera natur nawr ei fod yn gweithio’n iawn. Mae hi wastad yn brysur wrth y bwydwr adar ar y foment, felly mae yna digon i’ch diddori (neu os ’da’ch chi fel fi, i dynnu’ch sylw bant o’r gwaith!) am oriau. Mae’r bwydydd yn boblogaidd iawn gyda’r titw mawr, y titw las a’r titw penddu yn ogystal â’r llinos werdd, y ji-binc ac aderyn y to. Mae telor y cnau a’r robin goch hefyd yn ymweld yn rheolaidd ond anaml y ceir ymweliad gan y nico neu goch y berllan. Mae’r bwydydd hefyd yn denu’r gwiwerod lleol, ac er eu bod nhw’n ychydig o boendod i’r adar mae’n eithaf difyr gwylio eu hymdrechion acrobatig i gyrraedd y bwyd!
sylw - (1)