Bwydwch yr adar!
20 Ionawr 2009
,Mae’r dyddiau’n fyr, mae’r glaw yn oer, mae rhew ar y dail ac mae’r gwynt yn rhewi ’nhrwyn; mae’n rhaid ei bod hi’n fis Ionawr! Ond mae’r oerfel yn cael effaith ar greaduriaid eraill heblaw am bobl. Mae’n rhaid i adar fwyta llawer mwy yn ystod misoedd y gaeaf i gadw rhag rhewi i farwolaeth yn y nos. Edrychwch ar y i weld pa mor brysur yw hi!
Mae’r gaeaf yn amser gwych i ddenu adar i’ch gardd gan eu bod yn llai swil wrth ddod i gael bwyd. Efallai y byddwch chi’n denu rhai rhywogaethau nad ydynt yn ymweld â bwydwyr gardd fel arfer.
Mae yna gyngor ardderchog am ddenu adar i’ch gardd ar wefan yr RSPB, a thra eich bod chi yno beth am ymuno â Gwylfa Adar yr Ardd y penwythnos hwn? Gallwch gymryd rhan yn arolwg adar mwya’r byd o gysur eich ystafell fyw!
sylw - (1)