Creu Duwies
, 18 Mawrth 2009
Dros y pythefnos nesa yn Oriel 1, Sain Ffagan mae dau artist o India: Purnendu Dey a Dibyendu Dey, yn mynd ati i greu delw o’r Dduwies Hind?aidd Durga. Bob dydd bydd lluniau ychwanegol ar y blog ac adroddiad bach i chi gyd cael gwybod sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen! Wrth gwrs, mae’n llawer gwell os ydych yn gallu dod draw i’r Oriel i weld yr artistiaid wrth eu gwaith. Mae’r ddau artist yn gweithio trwy’r dydd yn yr amgueddfa, a bydd cyfle i chi gael siarad efo nhw a’r dehonglydd rhwng 11.30 a 12.30 a 2.00 a 3.00 bob dydd. Am rhagor o wybodaeth edrychwch ar wefan yr amgueddfa.
Ddoe dechreuodd Purnendu Dey a Dibyendu Dey ar eu gwaith, felly dim ond y gwaith paratoi sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn: maent wedi adeiladu cefnlenni allan o bren a mae papur wrthi’n cael ei mwydo mewn bwced o dd?r. Edrychwch ar y lluniau isod i chi gael weld beth sydd wedi digwydd mor belled!

sylw - (1)