Mawrth 13, 2007
13 Mawrth 2007
,Waw am ddiwrnod braf! Helo! Diwrnod o waith swyddfa sydd gen i heddiw, ond ces gyfle i fynd allan i grwydro'r safle bore 'ma cyn cwrdd â gr?p o ymwelwyr o Benarth.
Fe fuom ni'n sbecian o amgylch yr Eglwys - minnau a Ray Smith (Pen Saer - yn yr ystyr llythrennol - yr Amgueddfa) yn ateb cwestiynau a sgwrsio. Mae Ray wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers sbelen r?an: a dweud y gwir, mae wedi bod yn gweithio ar brosiect yr Eglwys ers ei chychwyn (h.y. pan oeddwn i'n fabi bach bochgoch).
O edrych yn ofalus ar luniau yn ein archifau, gellir ei sbotio, mewn du a gwyn, yn gweithio ar brosiect adeiladu Siop Gwalia, ac ar Institiwt Glowyr Oakdale hefyd. Ei orchwyl, ar hyn o bryd, yw cerfio bywyd Teilo Sant (cewch air am weddill ei gampweithiau mewn post nes ymlaen!) Mae'n defnyddio un darn o dderw Cymreig, un-troedfedd-ar-bymtheg o hyd - a chan ei bod hi dipyn yn gynhesach tu allan, mae wedi symud yn ôl i fyny i'r Eglwys i weithio. Dwi'n falch o gael ei gwmpeini, am ei fod yn llawn hwyl a gwybodaeth am bawb a phopeth yn Sain Ffagan (ac hefyd yn wrandawr da iawn pan fydda i'n troi'n Strempan oriog ar foreuau glawog). Os ddewch chi i fyny i'r Eglwys rywdro, mynnwch sgwrs ag e - ar yr amod y byddwch chi'n glou: mae gwaith 'da fe i'w wneud!
Ta waeth, wythnos orlawn sydd wedi mynd heibio (fe fydd raid i chi faddau imi - dwi'n gwybod taw dydd Mawrth yw hi, ond mae Wythnos Sain Ffagan yn wahanol iawn. Ddewch chi ddim o hyd iddi ar gloc na chalendr...) - ac mae'n syndod cymaint yn rhagor o ymwelwyr sydd wedi dod atom ni yn yr wythnos heulog ddiwethaf. O ystyried y cyfarch, sgwrsio, malu awyr, ateb cwestiynau a dwrdio dwi'n ei wneud bob dydd, mae'r Eglwys - er ei bod hi'n wag o gynulleidfa - yn dod, yn raddol bach, yn le swnllyd iawn.