Hafan y Blog

Parhau â’r gwaith yn Llys Llywelyn a Bryn Eryr

Dafydd Wiliam, 18 Ionawr 2016

Llys Llywelyn yw ein hail-gread o Lys Rhosyr, adfail ar Ynys Môn sydd yn dyddio o’r 13eg ganrif ac un o lysoedd Brenhinol Llywelyn ap Iorwerth – Llywelyn Fawr. Yn ogystal â’r brif neuadd, rydyn ni’n ail-greu adeilad llai sydd hefyd wedi’i seilio ar waith archaeolegol ar y safle. Dehonglwyd yr adeilad hwn fel cegin, a bydd yr ail-gread yn ei ddefnyddio fel gofod amlbwrpas lle gall plant ysgol newid i’w dillad canoloesol a pharatoi bwyd ar gyfer eu swper. Dros y misoedd cyn y Nadolig codwyd fframwaith pren y to i’w le, ac wedi hoelio’r estyll, gorchuddiwyd y to â gwellt. Gyda tho ar yr adeilad, gall y gwaith dodrefnu ddechrau.

Ni fydd to ar y brif neuadd am dipyn fodd bynnag. Mae’r waliau carreg bron yn fetr o drwch a’r talcenni’n codi hyd at 9 metr. Ni fyddwn yn segur wrth i’r gwaith gario ymlaen – byddwn ni’n ymchwilio i drefn yr ystafell. Mae staff yr Amgueddfa yn gweithio gydag arbenigwyr cydnabyddedig er mwyn ail-greu dodrefn ac addurn yr oes yn gywir, yn ogystal â sut y byddai’r gofod yn cael ei rannu a'i ddefnyddio.

 

Dim ond ar benwythnosau mae Ffermdy Oes Haearn Bryn Eryr ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd. Y rheswm am hyn yw’r trafnidiaeth trwm sydd yn deillio o safle adeiladu Y Gweithdy – un o’n orielau newydd. Mae ffermdy Bryn Eryr hefyd wedi ei seilio ar safle archaeolegol ar Ynys Môn. Er fod y gwaith bron â gorffen, mae’n rhaid plannu coed helyg ar y llethrau a chodi paneli cyll er mwyn amgáu’r safle. Cyn hir byddwn ni’n paentio patrymau o’r Oes Haearn ar wyneb mewnol y waliau, gan eu seilio ar ddarganfyddiadau archaeolegol, fel gwaith metel o’r cyfnod. Gan fod yr adeiladau ar agor yn ystod yr wythnos i ysgolion sydd wedi archebu ymlaen llaw, gallwn fanteisio ar y cyfle yma i ddeall yn well sut mae’r tai yn gweithio fel arddangosfa, a gwneud yn siŵr y bydd popeth ar ei orau erbyn i’r gwaith gael ei gwblhau.

Dafydd Wiliam

Prif Guradur: Adeiladau Hanesyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.