Hafan y Blog

Pengliniau bawlyd, cacwn a blodau'r gwynt!

Gareth Bonello, 9 Ebrill 2009

Bladau'r gwynt yn Sain Ffagan

Ar ôl gaeaf hir ac oer dwi'n siŵr bod llawer ohonom ni'n falch iawn bod y gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd! Er ei bod hi erbyn hyn yn ddechrau Ebrill mae arwyddion cynnar y gwanwyn wedi bod gyda ni ers sbel. Roedd y mis Mawrth hwn ymhlith y rhai sychaf yng Nghymru er 2002 ac roedd bron pobman ym Mhrydain wedi cael lefelau uwch nac arfer o heulwen. Roedd hyn wedi esgor ar ffrwydriad o liw yn ein coedwigoedd gyda blodau'n ymagor, y filfyw, blodyn y gwynt a'r friallen. Mae cacwn hefyd wedi dihuno o'u gaeafgwsg ac wedi cripian o'u tyllau yn y ddaear i ddechrau casglu paill a neithdar i fwydo'r nythfa.

Drwy gydol mis Mawrth cynhaliom ni weithgareddau yn Sain Ffagan gan eich annog i fynd yn weithgar mewn gwarchodaeth gwenyn. Plannodd dros 400 o ymwelwyr flodau gwyllt sy'n gynhenid i Brydain i ddenu gwenyn a phili-palaod. Dwi'n falch dweud eu bod yn ffynnu! Os hoffech chi wybod mwy am warchodaeth gwenyn beth am ymweld â wefan Gwarchod ein Gwenyn?

Byddai tro bach yn y parc neu'r goedwig leol yn ddigon i chi ddeall bod yr adar yn brysur iawn ar hyn o bryd. Mae ein hadar cân yn paru a nythu ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf wedi ymlafnio drwy'r gaeaf llym yma ym Mhrydain ond nid pob un. Mae'r Siff Saff cyntaf yn cyrraedd Prydain yn gynnar ym mis Mawrth o dde Ewrop a gogledd Affrica. Gallwch chi glywed eu cri dau nodyn ‘siff-saff’ nodweddiadol yn ein coedwigoedd, parciau a gerddi wrth fod y gwrywod yn cystadlu am fenywod a thiriogaeth. Beth am foeli clust am eu cri arbennig y tro nesaf rydych chi allan, neu pam na ddewch i ddigwyddiadd Côr y bore bach ar y 3ydd o Fai?

 

Mae gyda ni lawer o weithgareddau ar gyfer y gwanwyn gydag Wythnos Genedlaethol Compost yn digwydd yn gynnar ym mis Mai ac arwyddion y gwanwyn yn ystod hanner tymor mis Mai. Ewch i'r tudalen digwyddiadau am fwy o fanylion. Yn y cyfamser rhowch wybod i mi am ryfeddodau'r gwanwyn rydych chi wedi'u gweld yn ddiweddar yn y blwch sylwadau isod - unrhyw fwtsias y gog eto?

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.