Popty Derwen
25 Mawrth 2016
Yma yn y popty gallwn glywed yr ŵyn bach yn brefu yn y caeau wrth i ni weithio, yn dangos bod y gaeaf drosodd a’r gwanwyn ar ei ffordd o’r diwedd i Sain Ffagan. Ar ôl ein cot o baent a gwaith trwsio blynyddol, mae’n bryd tanio Idris unwaith eto – Idris y ddraig yw llysenw’r popty. Mae’n ddigon hoffus ond yn gallu bod ychydig yn anwadal weithiau!
Mae pobi Cymreig traddodiadol yn rhan allweddol o waith y becws, oedd yn wreiddiol yn fusnes teuluol yn Aberystwyth. Codwyd yr adeilad ym 1900 gan Evan Jenkins, ffermwr lleol, fel busnes ar gyfer ei ddwy ferch, Catherine Jane a Mary Elizabeth. Christine fy mam gafodd y fraint o ail-danio’r popty a phobi’r bara cyntaf ar ôl ailagor yr adeilad yn yr Amgueddfa ym 1987. Yn anffodus fe wnaeth hi’n gadael ni yr haf diwethaf, ond rydyn ni’n parhau i ddefnyddio’r ryseitiau y gweithiodd hithau a’r ymchwilydd Minwel Tibbott mor galed i’w casglu.
Dros y gaeaf rydw i a’r tîm wedi bod yn datblygu syniadau ar gyfer cynnyrch newydd. Mae gerddi’r amgueddfa o’n hamgylch ni yn llawn ffrwythau a llysiau sy’n ein hysbrydoli ni. Rhai o’r ffefrynnau hyd yn hyn yw’r bara riwbob, y deisen gellyg a siocled a’r Rholiau Sir Benfro.
Ond mae’r Pasg ar ein pennau ni’n barod a dyw rhai pethau byth yn newid – ar ddydd Gwener y Groglith byddwn ni’n croesi a rhoi sglein ar deisennau’r Groglith, gan flasu ambell un... i sicrhau safon wrth gwrs! Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ein cwsmeriaid yn ôl dros y misoedd nesaf. Mae arogl bara ffres yn rhoi rhyw deimlad cynnes i lawer o bobl, felly dilynwch eich trwyn i’r popty i ddweud helo.
sylw - (2)
Hi Lisa,
Thank you very much for your enquiry. I can confirm that the cheese topped rolls are still part of the range at the Bakehouse, they're a very popular item there!
Kind regards,
Nia
(Digital team)