Adnewyddu Y Garreg Fawr
6 Mai 2016
,Adeiladwyd Y Garreg Fawr yn y Waunfawr yn 1544, ac mae yn enghrifft dda o’r math o dŷ a oedd yn gyffredin yn ardal Eryri. Yn ystod y cyfnod yma tai fel hyn oedd tai mwyaf crand y wlad, a sail ein cartrefi ni heddiw. Cyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg roedd y Cymry cyfoethog yn byw mewn neuaddau pren unllawr. Rhannwyd hwythau i mewn i dri rhan: yn un pen roedd llaethdy a phantri, ac yn y pen arall oedd yr ystafell wely (y solar). Rhwng y ddau oedd y neuadd – sef ystafell fyw gyda lle tân agored yn y canol. Mae’r Garreg Fawr yn cynrychioli ymadawiad chwyldroadol o’r cynllun canol-oesol gynt, gan gyflwyno nifer o elfennau newydd. Wrth ddewis adeiladugyda cherrig yn lle coed, roedd modd codi dwy simdde effeithiol – un ar bob pen y tŷ. Gan bod y mŵg yn gallu gadael trwy’r ddwy simdde roedd modd creu ail lawr cynnes, di-fŵg, yn y gofod a arferai fod yn llawn mŵg a parddu.
Enwyd Y Garreg Fawr ar ôl y garreg oedd yn brigo i’r wyneb y tu ôl i’r tŷ. Mae ‘Mawr’ yn enw cyffredin ar y tai yma, er enghraifft Tŷ Mawr Wybrnant a Tŷ Mawr Nantlle. Mae’r defnydd o’r gair yn tynnu sylw tuag at safon yr adeiladau, ac hefyd eu maint - oherwydd roedd adeiladau deulawr yn dal yn anghyffredin. Yn fwy pwysig fyth, roedd yn denu sylw tuag at statws y perchnogion o fewn y gymdeithas leol.
Mae’r Garreg Fawr yn un o nifer cymharol fach o dai Eryri sydd wedi goroesi, ac oherwydd hynny o bwysigrwydd cenedlaethol. Erbyn 1976 roedd y tŷ crand yn cael ei ddefnyddio fel sgubor, ac wedi dirywio cymaint fel yr oedd bron yn amhosib ei adnabod. Ar y pryd yr unig ffordd o achub yr adeilad oedd ei symud yn gorfforol - carreg wrth garreg - 165 milltir i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, lle cafodd ei ail-adeiladu. Ddeugain mlynedd yn hwyrach mae’r tŷ yng nghanol gwaith adnewyddu.
Gwnaeth ymchwiliad diweddar nodi fod wyneb mewnol y waliau wedi cael ei rendrio gyda sement adeg ei ail-godi. Nid ydym yn ystyried y dechneg yma yn un addas erbyn hyn, ac mae gwaith wedi cychwyn i dynnu’r sement a gosod morter calch yn ei le. Wedi’r newid bydd waliau Y Garreg Fawr yn gallu ‘anadlu’ yn well, a dylai fod yn iawn am sawl canrif arall. Mae’r tŷ yn awr wedi cau am rai misoedd nes i’r gwaith adfer ei gwblhau.