Sylwadau o'r arddangsofa Urdd.org
13 Gorffennaf 2009
,Mae'r arddangsofa Urdd.org wedi gorffen nawr, dyma ychydig o sylwadau ac atgofion ymwelwyr:
‘Mae Llangrannog yn hwyl....wedi bod na 8 gwaith mewn 1 blwyddyn’
‘Dwi’n caru yr urdd.’
‘Dwi’n cofio mynd i Langrannog yn 1953 – cysgu dan ganfas a cheisio cropian i fynny’r allt i gabanau’r merched yn y nos ac Ifan Isaac yn fy nal.’ (hwyel gwynfryn)
‘Cofion fantastic o Llangrannog a Glan- Llyn. Cusan gyntaf , smwchio i ‘ysbryd y nos’ a ‘oh capten’!! A’r twmpath, hwre!! Hwyl a sbri joio mas draw! Gobeithio caiff fy mhlant y cyfle nawr!’
‘Rwy’n cofio aros mewn caban – a’r glaw yn dod i fewn drwy’r tô!! Dyddie da!’
‘Wedi aros yng ngwersyll Llangrannog tua tair gwaith – y tro cyntaf mewn pabell! Chwythodd y pabell i ffwrdd ar y trydydd nosweth a rhaid i mi a’m ffrindiau cysgu i mewn gyda’r swyddogion! Diolch swogs!’
‘Rwy’n cofio llawer o weithgareddau’r Urdd – canu, actio, ‘sub’s bench’ yn y dawnsio disgo... Ryw’n cofio ennill y goron, a chael mynd i dderbyn fy ngwobr yn stiwdio ‘Heno’ yn lle’r pafiliwn, oherwydd epiemic Clwy’r Traed a’r Genau ar y pryd. Fy atgof cryfaf yw o gael stwr gan Steff yn Llangrannog am sleifio i mewn i’r neuadd sglefrolio yn y nos, i wrando ar gerddoriaeth saesneg, a sglefrolio i Pearl Jam a Nirvana!’
‘Dwi’n rhy fach i fynd i glanllyn.’
Y curaduron yn brysur yn paratoi'r arddangosfa nesaf yn Oriel 1 sydd yn agor ar 1 Awst.