Newidiadau ar y gweill ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru
6 Mawrth 2017
,Mae newidiadau ar y gweill ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru, ac mae Casgliad y Werin wedi ailwampio ein tudalennau addysg i helpu athrawon i dderbyn yr her.
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Bydd dysgu yn dod yn llawer mwy trawsgwricwlaidd, gyda mwy o bwyslais ar gael plant ysgol yn barod at fywyd gan ddatblygu eu gallu i ddysgu sgiliau newydd a defnyddio gwybodaeth yn effeithiol a chreadigol.
Un o’r newidiadau mawr yw cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Mae'r fframwaith yn gobeithio datblygu nid yn unig sgiliau creu digidol, ond sgiliau cynllunio a gwerthuso sydd yn sgiliau gwerthfawr ar gyfer pob pwnc, ac mae’n cydnabod rôl cyfryngau digidol yn ein bywydau heddiw.
Mae nifer o elfennau o fewn y fframwaith. Yn ogystal a cynllunio a gwerthuso, cydweithio a chynhyrchu, mae elfennau dinasyddiaeth a meddwl cyfrifiadurol. Mae’r ddwy elfen yma yn achosi pryder i rai athrawon, gan eu bod yn ymwneud a datrys problemau a chodio, a hefyd rheolau hawlfraint a bod yn gyfrifol ar-lein.
Defnyddio Casgliad y Werin
Mae'r tudalennau newydd yn anelu i helpu athrawon gyda holl elfennau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Rydym wedi creu tudalennau cymorth ar gyfer yr elfennau hynny mae athrawon wedi bwydo nol i ni y maent yn llai hyderus gyda.
Mae hefyd cymorth ac enghreifftiau i helpu gyda creu prosiect, er mwyn datblygu sawl sgil o fewn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, trwy gynllunio, creu a’i werthuso.
Creu Cynnwys a Datblygu’r Sgiliau
Gall ysgolion greu cyfrif ar gyfer y dosbarth, ac yna defnyddio sgiliau digidol er mwyn creu cynnwys a fydd yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang.
Gellir creu casgliad o luniau, dogfennau a fideos, neu stori sydd yn cynnwys rhain ond gyda mwy o le ar gyfer ysgrifennu mewn manylder am bwnc. Math arall o gynnwys yw llunio llwybr, ble gellir plotio cynnwys digidol ar fap ar y wefan er mwyn creu taith ddigidol i ddweud stori.
Mae paratoi ac ymchwilio a defnyddio sgiliau a rhaglenni digidol i gynhyrchu cynnwys yn defnyddio nifer fawr o sgiliau o fewn y fframwaith, yn enwedig os yw’r dosbarth yn gwerthuso’r gwaith ar y diwedd.
Dewch o hyd i Adnoddau a Datblygu mwy o Sgiliau
Rhywbeth arall sydd wedi newid yw’r pecynnau addysg, dyma enghraifft. Mae nifer fawr o adnoddau addysg ar y wefan, ond nawr maent yn cael eu pecynnu ychydig yn wahanol, yn llawer mwy trawiadol gyda dolenni yn syth i gasgliadau ar y wefan.
Hefyd, maent nawr yn cynnwys tasgau digidol ychwanegol gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol mewn golwg.
Mae Casgliad y Werin yn wefan i bawb, yn galluogi pobl Cymru a’r byd i ymgysylltu gyda threftadaeth Cymreig. Ar gyfer athrawon, nid banc adnoddau addysgiadol yn unig ydi o. Mae’r wefan nawr yn offeryn defnyddiol i athrawon ar gyfer datblygu a defnyddio sgiliau digidol yn y dosbarth.
Eisiau Hyfforddiant?
Ydych chi’n ysgol a gyda diddordeb mewn derbyn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r wefan i gyfrannu cynnwys, darganfod adnoddau a datblygu sgiliau o fewn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol? Gallwch gysylltu â ni trwy’r wefan am fwy o wybodaeth.